Yn ogystal â dylunio nifer o bosteri trawiadol yn y chwedegau a’r saithdegau, creodd gyfresi poblogaidd i blant fel Cadwgan y Llygoden o’r Lleuad, Ici’r Ddôl a Wali Wmff. Mae wedi cyfrannu yn gyson dros nifer o ddegawdau i gylchgronau fel Lol, Wcw a Chylchgronau’r Urdd ac ymddangosodd sawl cartwn o’i eiddo yn y cylchgrawn dychanol Private Eye. I gloi gŵyl lwyddiannus iawn cyflwynwyd tlws hardd i Elwyn o waith y crefftwr Des Davies gan Aneurin Jones, cadeirydd y panel dyfarnu.
Elwyn Ioan yn derbyn tlws Cyfraniad Oes i’r Diwydiant Cyhoeddi wrth Aneurin Jones. Hefyd yn y llun mae Bethan Gwanas ac Alun Ifans








